Henffych, amddiffynnwr ein rhyddid;
sut golau yr oeddech a byddwch,
dosbarthwr byd-eang eich cyfiawnder,
rhyfelwr angheuol dros heddwch.
Gwrthwynebydd diflino rhag artaith,
ein enghraifft llewyrchus allgaredd,
ein gwarchodwr rhag arfau’r gormesydd;
Y rheiny a werthoch iddo y llynedd.Dosrannwch marwolaeth o’r pellter,
Cosbwch gan fom smart a drôn,
Dewiswch bywydau a chollir,
Yn taro eich targed yn y bôn.
Rhannu’r rhinweddau democratiaeth,
gwiredd eich gwareiddiad digymar,
Dangoswch i’r bobl gyntefig hon
Goruchafiaeth y Gorllewin Gwâr.Dyna chi, o dan ffagl Rhyddid;
ond mae’n rhyfeddol, wrth feddwl amdano,
bod cyfiawnder, bod eich rhyfel rhag artaith
yn seiliedig ar Fae Guantanamo.
A welir y gwir yn fradwriaeth?
Ydy Rhyddid yn fath cymhleth o we’
o dan fwgwth am Dduw a wyr pa reswm
gan Dduw a wyr pwy mewn cell Duw a wyr lle?Y mae Gwir dan glo yn y düwch
ar ei liniau ers lawer dydd;
dyma Ryddid yn gaeth yn gadwynau,
carcharwyd yng Ngwlad fawr y Rhydd.
Cedwir Cyfiawnder yn y ddalfa,
heb dreial am flwyddyn neu ddwy;
Henffych, hen America; gwallgofddyn
a does neb yn ei gredu o dim mwy.
Les Barker
See also Liberty’s Beacon (English translation)