Ble mae Daniel?

Lle rwyt ti heno, Daniel, pan fo gair
penaethiaid byd drachefn yn her i’th Dduw,
a deddf y farchnad rydd a ffydd y ffair
yn uwch na gwerthoedd cred a gobaith byw?
Lle rwyt ti, pan fo gofal am y gwan
yn llai ei werth na chyfoeth brwnt y crach?
Lle rwyt ti, pan fo’r hawl i bawb ei ran
a chyfle teg dan warth fel breuddwyd gwrach?
Lle rydw i? Ildio wnes, fel rhengoedd mud
y gwag eu pleidlais, rôl gweld gwau y gwir
â rhith cywirdeb slic, nes taenu hud
llonyddwch difaterwch dros y tir;
a gwawd distawrwydd wrth bob safiad glew
yn fwy o wayw byth na brath y llew.

Siôn Aled Owen

“This was written in 2001, before 9/11, but I felt there were clear echoes with what’s happening today. The sonnet asks what the biblical Daniel might do today and questions whether the widespread apathy in the face of injustice and oppression might lead him simply to conform with the oppressor’s demands. The closing couplet reads: ‘and the mockery of silence in response to every courageous stance / is far more of an agony than the lion’s jaws’.”

Leave a Reply